Wrthi’n datblygu rhwydwaith trydan cadarn a chynaliadwy i gefnogi dyfodol ynni adnewyddadwy Cymru
Mae Green GEN Cymru yn cynnig gosod linell uwchben 132kV (132,000 folt) newydd, sydd wedi’u cynnal gan bolion pren, i gysylltu Parciau Ynni Bute Energy ym Mryn Gilwern â rhwydwaith dosbarthu lleol newydd arfaethedig mewn gorsaf newid trydan newydd, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-Muallt.
Mae cysylltiad arfaethedig Bryn Gilwern oddeutu 5 cilometr.
Bydd y cysylltiad newydd yn cyfrannu at rwydwaith trydan cryfach, yn lleihau’r pwysau ar y grid lleol presennol, yn cefnogi busnesau ac yn golygu bod modd cyflwyno gwresogi gwyrdd a cherbydau trydan mewn cymunedau gwledig.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan Gymru’r egni sydd ei angen arni mewn byd Sero Net
Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae angen i ni sicrhau bod yr ynni gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu yn cyrraedd y cartrefi, yr ysbytai, yr ysgolion, y busnesau a’r cymunedau sydd ei angen yng Nghymru gyfan a’r tu hwnt.
Adeiladwyd y seilwaith trydan yng Nghymru flynyddoedd lawer yn ôl, i gludo trydan o hen orsafoedd pŵer tanwydd ffosil yn y gogledd a’r de. Nid oes gan y rhwydwaith presennol yng nghanolbarth Cymru ddigon o gapasiti i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd sydd ei angen arnom ni ar gyfer ein cartrefi a’n busnesau, yn lleol ac yn genedlaethol.
Diolch am eich adborth cynnar
Rydym yn gwerthfawrogi pawb a gymerodd yr amser i ymgysylltu a rhoi adborth yn ystod ymgynghoriad anstatudol hydref 2024.
Gan fod yr is-orsaf arfaethedig wedi'i lleoli'n agosach at ein gorsaf newid arfaethedig, mae'r cysylltiad sydd ei angen i gysylltu'r parc ynni â'r rhwydwaith dosbarthu wedi'i leihau'n sylweddol o ran cwmpas. O ganlyniad, nid oes angen y llinell uwchben 1 cilometr a gynigiwyd yn flaenorol ar hyn o bryd.
Bydd Cysylltiad Grid Bryn Gilwern, a fydd yn cael ei gynnal ar bolion pren, yn symud ymlaen fel prosiect annibynnol a bydd yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).
Disgwylir i gam nesaf yr ymgynghoriad ar gyfer Bryn Gilwern ddigwydd yn 2026.
Gweler ein cynigion ar gyfer Cysylltiad Bryn Gilwern, wedi'i gynnal ar bolion pren, ar ein map rhyngweithiol yma
Cysylltwch â ni
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn.