Wrthi’n datblygu rhwydwaith trydan cadarn a chynaliadwy i gefnogi dyfodol ynni adnewyddadwy Cymru
Mae Green GEN Cymru yn cynnig gosod dwy linell uwchben 132kV (132,000 folt) newydd, sydd wedi’u cynnal gan bolion pren, i gysylltu Parciau Ynni Bute Energy ym Mryn Gilwern ac Aberedw â rhwydwaith dosbarthu lleol newydd arfaethedig mewn gorsaf newid trydan newydd, ar droed Bryn Aberedw, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-Muallt.
Mae’r ddau gysylltiad llinellau uwchben yn brosiectau ar wahân. Mae cysylltiad arfaethedig Bryn Gilwern oddeutu 5 cilometr, ac mae cysylltiad Aberedw ychydig dros 1 cilometr.
Bydd y cysylltiadau newydd yn cyfrannu at rwydwaith trydan cryfach, yn lleihau’r pwysau ar y grid lleol presennol, yn cefnogi busnesau ac yn golygu bod modd cyflwyno gwresogi gwyrdd a cherbydau trydan mewn cymunedau gwledig.
I ddysgu mwy am Gysylltiad Grid Aberedw, ewch i: greengenaberedw.com.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan Gymru’r egni sydd ei angen arni mewn byd Sero Net
Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae angen i ni sicrhau bod yr ynni gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu yn cyrraedd y cartrefi, yr ysbytai, yr ysgolion, y busnesau a’r cymunedau sydd ei angen yng Nghymru gyfan a’r tu hwnt.
Adeiladwyd y seilwaith trydan yng Nghymru flynyddoedd lawer yn ôl, i gludo trydan o hen orsafoedd pŵer tanwydd ffosil yn y gogledd a’r de. Nid oes gan y rhwydwaith presennol yng nghanolbarth Cymru ddigon o gapasiti i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd sydd ei angen arnom ni ar gyfer ein cartrefi a’n busnesau, yn lleol ac yn genedlaethol.
Cymryd rhan
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a roddodd adborth.
Mae ein hymgynghoriad anstatudol ar gyfer prosiectau Cysylltiadau Grid Bryn Gilwern ac Aberedw, a gynhaliwyd rhwng 11 Medi a 23 Hydref 2024, bellach wedi cau
Yn ystod yr ymgynghoriad, gofynnwyd am adborth ar y llwybrau sy’n cael eu ffafrio, a’r aliniadau drafft gan gynnwys safleoedd polion pren dangosol ar gyfer Cysylltiadau Grid Bryn Gilwern ac Aberedw.
Bydd yr adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori nawr yn cael ei ddadansoddi a'i ystyried yn ofalus, ochr yn ochr ag asesiadau technegol pellach ac arolygon amgylcheddol.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddau brosiect ar gael yn ein Llyfryn ymgynghoriad anstatudol - Medi i Hydref 2024.
Gallwch chi weld ein cynigion ar gyfer y ddwy linell uwchben, wedi’u cynnal gan bolion pren, ar ein map rhyngweithiol yma
Cysylltwch â ni
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn.
I ddysgu mwy am Gysylltiad Grid Aberedw ewch i: greengenaberedw.com.