Skip to content





Ymgynghoriad

Mae ein hymgynghoriad anstatudol ar gyfer prosiect Cysylltiad Grid Bryn Gilwern, a gynhaliwyd rhwng 11 Medi a 23 Hydref 2024, bellach wedi cau.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a roddodd adborth.

Tra bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd y timau prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r gymuned wrth i'r ddau brosiect gael eu datblygu.

Yn ystod ymgynghoriad hydref 2024, gofynnwyd am eich adborth ar y llwybr a ffefrir, a'r aliniad drafft, gan gynnwys safleoedd polion pren dangosol ar gyfer Cysylltiad Grid Bryn Gilwern, ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill yr hoffech i ni eu hystyried.

Camau nesaf

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei adolygu, ei gofnodi a'i ystyried yn ofalus wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Byddwn yn defnyddio'ch adborth i adolygu'r penderfyniadau rydym wedi'u gwneud hyd yma ac i lywio ein gwaith wrth symud ymlaen. Byddwn hefyd yn cynnal arolygon yn yr ardal i ddeall mwy am yr amgylchedd lleol.

Ein camau nesaf fydd datblygu dyluniad ac aliniad manylach ar gyfer cysylltiadau'r ddwy linell uwchben newydd, gan gynnwys dewis lleoliadau terfynol ar gyfer y polion pren ac unrhyw seilwaith dros dro a allai fod yn ofynnol, fel ffyrdd mynediad ac ardaloedd i storio offer adeiladu.

Byddwn wedyn yn cynnal astudiaethau technegol ac amgylcheddol manwl ac yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn 2026. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r adborth a geir o'r ymgynghoriad anstatudol hwn a sut y mae'n dylanwadu ar ein cynigion. Bydd hwn yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus nesaf, pan fydd pobl yn gallu rhoi eu barn ar union aliniad y llwybr, gan gynnwys lleoliadau'r polion pren, y llwybrau mynediad a'r ardaloedd gweithio.