Ymgysylltu â thirfeddianwyr
Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gadarn gyda thirfeddianwyr a thirddeiliaid wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer cysylltiadau Bryn Gilwern ac Aberedw.
Byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydym ni’n eich annog chi a/neu eich cynrychiolwyr i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Mynediad ar gyfer arolygon
Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, yn ogystal â’r astudiaethau amgylcheddol manwl.
Mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau o ran y llwybr a lleoli cysylltiad Bryn Gilwern ac Aberedw. Mae angen cynnal rhai arolygon, fel arolygon adar neu ystlumod, ar adegau penodol o’r flwyddyn i ddarparu gwybodaeth am nythu neu gynefinoedd.
Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr a thirddeiliaid er mwyn cytuno ar fynediad er mwyn gallu cynnal arolygon, lle bynnag y bo modd, ar adegau priodol gan achosi cyn lleied â phosibl o anghyfleustra.
Taflen Arolygon Amgylcheddol a Pheirianyddol
Taflen Taliadau Seilwaith Trydanol Newydd i Dirfeddianwyr
Nid yw caniatáu mynediad Green GEN Cymru i dir i wneud arolygon yn atal tirfeddianwyr rhag cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi sylwadau am brosiectau cysylltu Bryn Gilwern ac Aberedw ar unrhyw adeg.
Os ydych chi’n dirfeddiannwr ac eisiau rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.