Dewis y llwybrau sy’n cael eu ffafrio
Gan weithio gyda’n hymgynghorwyr arbenigol, fe wnaethom ni ddewis ac asesu’n ofalus nifer o opsiynau posibl ar gyfer trywydd y llinellau uwchben er mwyn cysylltu’r Parciau Ynni newydd â’r rhwydwaith trydan.
Mae ein rhwydwaith llinell uwchben arfaethedig wedi cael ei ddylunio’n ofalus i ystyried y gofynion technegol a sut gallai pob opsiwn effeithio ar gymunedau lleol, y dirwedd a golygfeydd lleol, bioamrywiaeth, coedwigaeth, treftadaeth ddiwylliannol, perygl llifogydd a defnyddiau tir eraill ar hyd y llwybr.
Yna, fe wnaethom ni ddewis y llwybr roeddem ni’n ei ffafrio a nodi aliniad drafft posibl, gan gynnwys safleoedd dangosol y polion pren, ar gyfer cysylltiadau grid Bryn Gilwern ac Aberedw. Rydym ni’n credu bod y llwybrau sy’n cael eu ffafrio yn sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng ein gofynion technegol ni a chael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd a’r cymunedau cyfagos.
Wrth ddatblygu ein cynigion, rydym ni wedi ceisio lleihau’r effeithiau gweledol cymaint â phosibl, gan roi ystyriaeth ofalus i olygfeydd o lefydd fel eiddo, a gan ddefnyddio’r coed a’r llystyfiant presennol ar gyfer sgrinio’n naturiol lle bo hynny’n bosibl.
Ein nod yw bodloni anghenion technegol y prosiectau a chydbwyso a pharchu sensitifrwydd yr amgylchedd cyfagos ar yr un pryd. Byddwn ni’n parhau i fireinio ein cynigion wrth i ni ddatblygu dyluniad a lleoliad y ddwy linell uwchben newydd, gan ystyried y dirwedd a chwilio am ffyrdd o leihau ymhellach yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd a’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn treulio amser yn yr ardal.
Map rhyngweithiol
Archwiliwch ein map rhyngweithiol sy’n dangos y llwybrau sy’n cael eu ffafrio, a’r aliniad drafft, gan gynnwys safleoedd dangosol y polion pren ar gyfer cysylltiadau Bryn Gilwern ac Aberedw.
Chwyddo mewn ar ardaloedd penodol yr hoffech eu gweld a chlicio ar bob llwybr i weld cyfeirnodau’r polion pren.
Ymgynghoriad wedi cau
Sylwch fod yr ymgynghoriad anstatudol ar gyfer prosiectau Cysylltiad Grid Bryn Gilwern ac Aberedw, a gynhaliwyd rhwng 11 Medi a 23 Hydref 2024, bellach wedi cau. Bydd y map hwn yn cael ei ddiweddaru fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus statudol Green GEN Cymru, a gynlluniwyd yn 2026.
Esbonio’r llwybr rydym ni’n ei ffafrio
Bydd y llwybr rydym ni’n ei ffafrio yn dechrau yn safle’r is-orsaf ar gyfer Parc Ynni arfaethedig Bryn Gilwern, ym Mhowys. Yna, mae’r llwybr yn mynd lawr tuag at y A481 cyn croesi i gysylltu â’r orsaf newid arfaethedig, sydd wedi’i lleoli wrth droed Bryn Aberedw, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-muallt.
Y llwybr sy’n cael ei ffafrio, sy’n tua 5 cilometr o hyd, yw’r opsiwn byrraf, mae’n debygol o gael y lleiaf o effaith ar y dirwedd a’r amwynder gweledol, ac mae’n osgoi cael effaith ar goedwigaeth, coetir a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, bydd yr effeithiau ar leoliad Bryngaer Banc y Castell, Rhes Meini’r Llys a Maen Hir cysylltiedig y Llys (sy’n henebion rhestredig), a lleihau’r effeithiau posibl ar dir comin, ymysg yr ystyriaethau allweddol pan gaiff union leoliad y polion ei ddewis.
Esbonio’r llwybr rydym ni’n ei ffafrio
Bydd y llwybr sy’n cael ei ffafrio yn dechrau ar safle’r isorsaf ar gyfer Parc Ynni arfaethedig Aberedw, a saif tua 3 cilometr i’r dwyrain o Lanfair-ym-Muallt ym Mhowys. Mae’r llwybr, sydd ychydig dros 1 cilometr o hyd, yn disgyn o ben Bryn Aberedw i gyfeiriad yr A481, a bydd yn cysylltu â’r orsaf newid newydd arfaethedig, wrth droed Bryn Aberedw.
Mae Bryn Aberedw yn nodwedd amlwg yn yr ardal hon, ac o ran tirwedd ac amwynder gweledol, mae pob opsiwn mor gytbwys â’i gilydd.
O’r opsiynau y buom ni’n eu hystyried, dewiswyd y llwybr sy’n cael ei ffafrio yn ofalus gan mai dyma’r llwybr byrraf ac nid yw’n dod cymaint i gysylltiad â gorlifdiroedd, mawn na chyflenwadau dŵr preifat.
Mae’r llwybr sy’n cael ei ffafrio yn osgoi coetiroedd ac asedau treftadaeth ddiwylliannol dynodedig.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch chi ddarllen mwy am y gwaith llwybro rydym ni wedi’i wneud, ynghyd â’r prosesau rydym ni wedi’u dilyn i ddod o hyd i’r llwybr sy’n cael eu ffafrio ar gyfer bob cysylltiad, yn y Dogfennau Llwybro ac Ymgynghori sydd ar gael ar ein gwefan.